Mae Brad Mooar o Seland Newydd wedi cael ei ddewis fel prif hyfforddwr newydd y Scarlets.

Fe fydd yr hyfforddwr 44 oed yn ymuno â’r clwb rhanbarth ar ôl cyfnod llwyddiannus fel is-hyfforddwr y Crusaders.

Cyn hynny, bu’n brif hyfforddwr gyda’r Southland Stags yn ogystal â gweithio fel hyfforddwr ymosod yr Eastern Province a’r Southern Kings yn ne Affrica.

Oddi ar y cae rygbi, mae Brad Mooar yn gyfreithiwr cymwysedig a gafodd ei dderbyn i Uchel Lys Seland Newydd ym 1997.

Mae’n olynu Wayne Pivac yn ei swydd newydd, wrth i’r gŵr hwnnw adael y Scarlets er mwyn bod yn brif hyfforddwr ar dîm Cymru.

“Her gyffrous”

Mae Brad Mooar, a fydd yn symud o Seland Newydd i orllewin Cymru, yn disgrifio ei fenter newydd fel “her gyffrous”.

“Mae’r Scarlets yn adnabyddus ar draws y byd; mae’n glwb buddugol gyda threftadaeth falch, cefnogwyr angerddol ac mae’n uchelgeisiol.

“Mae’n anrhydedd cael y cyfle i arwain yn dilyn gwaith arbennig Wayne Pivac wrth iddo symud ymlaen i hyfforddi Cymru.

“Yn ogystal â safon y Scarlets ar y cae, gyda charfan dalentog â chanran uchel o chwaraewyr lleol, mae’r clwb yn cynrychioli’r gymuned ehangach gydag angerdd ac ymroddiad.

“Mae fy nheulu a minnau yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gymuned a setlo yng ngorllewin Cymru.”