Dreigiau 18–12 Caeredin

Daeth buddugoliaeth brin i’r Dreigiau wrth iddynt groesawu Caeredin i Rodney Parade yn y Guinness Pro14 nos Sul.

Sgoriodd Jared Rosser y ddau gais holl bwysig mewn gêm glos.

Rhoddodd cic gosb gynnar Jason Tovey y Deigiau ar y blaen a’r tîm cartref a gafodd gais cyntaf y noson hefyd, Rosser yn croesi yn y gornel wedi bylchiad gwreiddiol Jordan Williams.

Caeredin a orffennodd yr hanner gryfaf ac er i’r Dreigiau amddiffyn yn ddewr am gyfnod hir fe ddaeth cais i’r Albanwyr yn y diwedd, Dougie Fife yn croesi, 10-5 y sgôr wrth droi.

Patrwm tebyg a oedd i’r ail hanner gyda’r Dreigiau’n dechrau’n dda cyn i Gaeredin ddod yn fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner fynd rhagddo.

Cyfunodd Williams a Rosser unwaith eto i roi’r asgellwr drosodd am ei ail gais a rhoddodd trosiad Tovey ddeg pwynt o fantais i’r tîm cartref.

Ymestynnodd y maswr y fantais i dri pwynt ar ddeg gyda chic gosb chwarter awr o’r diwedd ond yn gorffennodd Caeredin yn gryf.

Bylchodd Jaco van der Walt i roi Darcy Graham drosodd am gais cyn ychwanegu’r trosiad i roi ei dîm o fewn sgôr gyda deuddeg munud yn weddill.

Parhau i bwyso a wnaeth yr Albanwyr wedi hynny ond daliodd y Dreigiau eu gafael i sicrhau buddugoliaeth brin.

Mae’r canlyniad yn eu codi o waelod  cyngres B y Pro14, dros y Southern kings i’r chweched safle.

.

Dreigiau

Ceisiau: Jared Rosser 24’, 54’

Trosiad: Jason Tovey 26’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 10’, 65’

.

Caeredin

Ceisiau: Dougie Fife 40’, Darcy Graham 67’

Trosiad: Jaco van der Walt 68’