Scarlets 29-12 Ulster

Cododd y Scarlets i’r ail safle yn y Guinness Pro14 wrth guro Ulster gartref nos Wener.

Croesodd y tîm cartref am bedwar cais i sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws ar Barc y Scarlets.

Cwblhaodd David Shanahan symudiad tîm da i roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr cyn i gic gosb Dan Jones gau’r bwlch erbyn hanner ffordd trwy’r hanner.

Enillodd y Scarlets y gêm i bob pwrpas gyda thri chais mewn chwarter awr yn ail hanner yr hanner cyntaf, un yr un i Werner Kruger a Kieran Hardy a’r gorau o’r tri i’r canolwr dylanwadol, Kieron Fonotia, ar ddiwedd yr hanner.

Llithrodd Tom Prydie drosodd yn y gornel dde i sicrhau’r pwynt bonws ar yr awr gan olygu mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech Jonny Stewart i’r ymwelwyr bum munud yn ddiweddarach.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Wayne Pivac dros Ulster i’r ail safle yn nhabl cynges A.

.

Scarlets

Ceisiau: Werner Kruger 26’, Kieran Hardy 37’, Kieron Fonotia 40’, Tom Prydie 61’

Trosiadau: Dan Jones 27’, 37’, 62’

Cic Gosb: Dan Jones 19’

.

Ulster

Ceisiau: David Shanahan 15’, Jonny Stewart 65’

Trosiad: Billy Burns 16’