Leinster 52–7 Gweilch

Cafodd y Gweilch grasfa iawn wrth iddynt deithio i’r RDS i herio Leinster yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Croesodd y tîm cartref am dri chais yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu pedwar arall i gwblhau’r gweir yn yr ail hanner.

Rhoddodd ceisiau Conor O’Brien, Scott Penny a Nick McCarthy fantais iach i’r Gwyddelod ar yr egwyl cyn i Scott Fardy sicrhau’r pwynt bonws yn gynnar yn yr ail hanner.

Aeth pethau’n flêr wedi hynny o safbwynt y Gweilch wrth iddynt ildio tri chais arall, un i Max Deegan ac un yr un i’r efeilliaid, Ed a Bryan Byrne.

Unig gysur y Gweilch oedd cais munud olaf Hanno Dirksen. Mae’r canlyniad yn eu cadw’n drydydd yn nghyngres A y Pro14.

.

Leinster

Ceisiau: Conor O’Brien 12’, Scott Penny 32’, Nick McCarthy 38’, Scott Fardy 45’, Ed Byrne 57’, Max Deegan 63’, Bryan Byrne 73’

Trosiadau: Ciaran Frawley 13’, 33’, 40’, 45’, 58’, 65’, 74’

Cic Gosb: Ciaran Frawley 25’

.

Gweilch

Cais: Hanno Dirksen 79’

Trosiad: Sam Davies 80’