Glasgow 40–15 Gleision

Colli’n drwm a fu hanes y Gleision wrth iddynt ymweld â Scotstoun i wynebu Glasgow yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Er i gic gosb gynnar Jarrod Evans roi’r ymwelwyr o Gymru ar y blaen, roedd gan y tîm cartref fantais iach erbyn yr egwyl diolch i bedwar cais hanner cyntaf.

Daeth y cyntaf o’r rheiny i Adam Ashe, a’r ail a’r trydydd i Nikola Matawalu a Callum Gibbins cyn i Tommy Seymour sicrhau’r pwynt bonws dri munud o ddiwedd yr hanner.

Cafwyd ymateb cadarnhaol gan y Gleision wedi troi ar ffurf ceisiau Kristian Dacey a Jarrod Evans. Ond nid oedd amheuaeth am y canlyniad wrth i Rory Hughes a Matawalu groesi am ddau arall i Glasgow gan ddiogelu buddugoliaeth gyfforddus y tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn bedwerydd yng nghyngres A y Pro14.

.

Glasgow

Ceisiau: Adam Ashe 11’, Nikola Matawalu 17’, 68’, Callum Gibbins 30’, Tommy Seymour 37’, Rory Hughes 54’

Trosiadau: Peter Horne 12’, 18’, 31’, 38’, 68’

.

Gleision

Ceisiau: Kristian Dacey 44’, Jarrod Evans 60’

Trosiad: Jarrod Evans 61’

Cic Gosb: Jarrod Evans 5’