Mae’r cefnwr wedi gorfod tynnu allan o’r tim ar ôl iddo ddioddef anaf i’w ben yn erbyn Awstralia.

Ni fydd cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, yn chwarae yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn (Tachwedd 24) wrth iddo wella o ergyd.

Cafodd Halfpenny, 29, ei anafu gan chwaraewr Awstralia, Samu Kerevi, ar Dachwedd 10.

Fe alwodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, y digwyddiad yn un “byrbwyll” gan chwaraewr Awstralia.

Er hynny, mae’r asgellwr George North wedi gwella o anaf i’w goes ac ar gael dydd Sadwrn wrth i Gymru geisio parhau eu rhediad llwyddiannus y tim.

Mae Cymru wedi ennill yr Alban, Awstralia a Tonga yn gemau’r gaeaf yn barod.

“Mae Leigh allan. Fe wnaeth o rywfaint o hyfforddi ar fore Sadwrn ac roedd o’n teimlo ychydig yn benwan,” esbonia Rob Howley, ail hyfforddwr Cymru.

“Daw lles y chwaraewr yn gyntaf, felly yn anffodus fe fydd yn colli allan y penwythnos yma”

Mae Cymru wedi ennill y tair gem ddiwethaf yn erbyn De Affrica. Mae’r tim llawn yn cael ei alw am ganol dydd Iau (Tachwedd 22).