Fe dydd cefnwr Leicester Tigers, Jonah Holmes yn gwisgo crys coch Cymru am y tro cyntaf yn ystod y gêm yn erbyn Tonga dros y penwythnos.
Mae’r chwaraewr, a gafodd ei eni yn Stockport ger Manceinion, ond sydd â theulu o Gymru, ymhlith y 14 newid i garfan Cymru yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia yr wythnos ddiwethaf.
Bydd yn ymuno â Liam William, sydd ar yr asgell, a fydd yn ennill ei hanner canfed cap.
Bydd y blaenasgellwr, Aaron Wainwright, yn dechrau yn y rheng-ôl, gan ymuno â Seb Davies ac Ellis Jenkins – sydd wedi’i enwi’n gapten.
Mae disgwyl i Wyn Jones, y prop o Gilycwm, ddechrau yn y rheng-flaen – y tro cyntaf iddo ddechrau mewn gêm ryngwladol.
“Creu dyfnder”
Yn ôl Warren Gatland, mae’r gêm ddydd Sadwrn (Tachwedd 17) yn “gyfle ffantastig i nifer o chwaraewyr”, wrth i Gymru wynebu Tonga – gwlad y maen nhw erioed wedi colli yn eu herbyn.
“Rydym wedi siarad am greu dyfnder, ac i ni mae’n bwysig creu carfan sy’n llawn o chwaraewyr sy’n gallu cychwyn y gêm – mae gan bob un yn y garfan y gallu i wneud hynny,” meddai’r hyfforddwr.
“Mae angen i’r bechgyn y penwythnos hwn ddangos eu dwylo ar gyfer y gêm olaf [yn erbyn De Affrica], a rhoi pwysau ar y chwaraewyr a ddechreuodd y penwythnos diwethaf.”
Carfan Cymru
Jonah Holmes; Liam Williams, Tyler Morgan, Owen Watkin, Steff Evans; Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Elliot Dee, Leon Brown, Jake Ball, Adam Beard, Aaron Wainwright, Ellis Jenkins (c), Seb Davies.
Ar y fainc: Ryan Elias, Rob Evans, Tomos Francis, Cory Hill, Ross Moriarty, Aled Davies, Rhys Patchell, Josh Adams.