Cymru 9–6 Awstralia

Cymru a aeth â hi mewn gêm agos yn erbyn Awstralia yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd nos Sadwrn (Tachwedd 10).

Er nad oedd hi’n glasur, roedd hi’n well gêm na’r hyn yr oedd y sgôr isel yn ei awgrymu, a doedd fawr o syndod mai un sgôr a wahanodd y ddau dîm yn y diwedd.

Cyfartal, tri phwynt yr un, a oedd hi ar hanner amser wedi cic gosb yr un gan Leigh Halfpenny a Bernard Foley.

Dylai Cymru fod wedi bod ar y blaen serch hynny gan i Halfpenny fethu gyda dau gynnig arall, un o’r rheiny yn gic syml o flaen y pyst.

Roedd hi’n gêm well wedi’r egwyl a Chymru a oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o groesi am gais ond roedd amddiffyn Awstralia yn drefnus ac effeithiol.

Bu rhaid aros tan y chwarter awr olaf am bwyntiau cyntaf yr hanner, cic gosb gan Halfpenny yn rhoi Cymru yn ôl ar y blaen cyn i Matt Toomua unioni pethau drachefn.

Daeth un cyfle arall i Gymru ei hennill hi yn y munudau olaf, a gyda Leigh Halfpenny oddi ar y cae, rhoddwyd y cyfrifoldeb hwnnw i’r eilydd Dan Biggar.

Anelodd yntau’n gywir gan sicrhau buddugoliaeth i Gymru, y gyntaf dros Awstralia mewn deg mlynedd.

.

Cymru

Ciciau Cosb:  Leigh Halfpenny 22’, 68’, Dan Biggar 77’

.

Awstralia

Ciciau Cosb: Bernard Foley 34’,  Matt Toomua 75’