Wrth i Gymru geisio am fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia am y tro cyntaf ers 2008, mae’r hyfforddwr wedi brolio’r cryfder fydd ar y fainc ar gyfer yr ornest yng Nghaerdydd yfory am 5.20 y p’nawn.

Mae gan Gymru record erchyll yn erbyn y Dewiniaid o’r Oz, ac wedi colli’r 13 gêm ddiwethaf.

Ond mae Warren Gatland yn credu y gallai’r eilyddion hynod brofiadol sydd gan Gymru fod yn allweddol.

Ar y fainc yfory mae Dan Biggar a Liam Williams, dau gefnwr sydd wedi chwarae i’r Llewod.

Ac mae dau flaenwr cyhyrog ymysg yr eilyddion hefyd, sef Cory Hill ac Ellis Jenkins a oedd yn gapten ar ei wlad yn y gemau yn Ne Affrica a’r Ariannin tros yr Haf.

“Heb os dyma un o’r meinciau cryfaf i ni gael ers tro byd,” meddai Warren Gatland.

“Bu cryn siarad am effaith a phwysigrwydd y fainc ar gyfer y gêm hon.”

Tîm Cymru:  Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Nicky Smith, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty.