Cheetahs 21–10 Gleision

Colli fu hanes y Gleision wrth iddynt herio’r Cheetahs yn eu gêm Guinness Pro14 yn Stadiwm Free State, Bloemfontein, nos Sadwrn.

Roedd tri chais hanner cyntaf yn ddigon i’r tîm o Dde Affrica wrth i’r ymwelwyr o Gymru dalu’n ddrud am wneud gormod o gamgymeriadau.

Cafodd y Gleision ddechrau gwael i’r gêm gyda chamgymeriadau amddiffynnol yn arwain at ddau gais i’r Cheetahs yn y deuddeg munud agoriadol.

Croesodd Shaun Venter am y cyntaf ar ôl codi’r bêl a rhedeg trwy ganol ryc cyn i Sibhale Maxwane orffen yn daclus gyda chic a chwrs ar gyfer yr ail wedi i Lloyd Williams golli’r meddiant yng nghanol y cae.

Daeth y Gleision yn fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner fynd rhagddo ond tri phwynt o droed Steve Shingler a oedd yr unig brawf o hynny ar y sgôr fwrdd.

A gorffennodd yr hanner gyda chnoc enfawr i obeithion y Cymry, cais arall i’r Cheetahs. Ac roedd thema gyfarwydd iddo wrthGleision golli’r meddiant unwaith eto, yn ddwfn yn hanner y Cheetahs y tro hwn cyn i Maxwane redeg bron i hyd y cae am ei ail ef o’r noson.

Y tîm cartref a ddechreuodd yr ail hanner orau hefyd ond rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Gleision pan sgoriodd Samu Manoa gyda chwarter awr yn weddill, yr Americanwr mawr yn taro cic Schoeman i lawr cyn tirio.

Rhoddodd trosiad Shingler y Cymry o fewn un pwynt ar ddeg ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i’r Cheetahs ddal eu gafael.

Mae’r Gleision yn llithro i’r pedwerydd safle yn nhabl cyngres A y Pro14.

.

Cheetahs

Ceisiau: Shaun Venter 8’, Sibhale Maxwane 11’, 39’

Trosiadau: Tiaan Schoeman 9’, 12’, 40’

.

Gleision

Cais: Samu Manoa 65’

Trosiad: Steve Shingler 66’

Cic Gosb: Steve Shingler 22’