Gweilch 22–17 Connacht
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth dda wrth iddynt groesawu Connacht i Gae’r Bragdy, Pen-y-bont, yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Hwn a oedd y tro cyntaf i’r rhanbarth chwarae gêm gynghrair yn y stadiwm hwnnw a chawsant brofiad dymunol gan gipio buddugoliaeth bwynt bonws gyda chais hwyr Dan Evans.
Dechreuodd y tîm cartref ar dân gyda dau gais yn y deg munud agoriadol i’r asgellwr, Keelan Giles, sydd wedi dychwelyd i’r tîm yn ddiweddar yn dilyn cyfnod hir gydag anaf.
Cic gosb o droed Jack Carty a oedd unig ymateb yr ymwelwyr yn yr hanner cartref ac fe ymestynnodd y Gweilch eu mantais wedi’r egwyl gyda chais Harri Morgan a throsiad, Sam Davies. 17-3 y sgôr gyda chwarter y gêm yn weddill.
Tarodd Connacht yn ôl serch hynny i unioni’r sgôr gyda phum munud yn weddill diolch i ddau drosgais. Bundee Aki a Jarrad Butler yn cael y ceisiau a Carty’n ychwanegu’r trosiadau.
Er iddynt fod ar y blaen am ran helaeth o’r gêm felly, roedd angen cais hwyr ar y Gweilch i’w hennill hi. Daeth hwnnw gyda symudiad olaf y noson wrth i Cory Allen fylchu i greu’r sgôr holl bwysig i Evans.
Mae’r fuddugoliaeth bwynt bonws yn codi’r Gweilch i’r ail safle yng nghyngres A y Pro14.
.
Gweilch
Ceisiau: Keelan Giles 2’, 9’, Harri Morgan 52’, Dan Evans 80’
Trosiad: Sam Davies 53’
Cerdyn Melyn: Rob McCusker 46’
.
Connacht
Ceisiau: Bundee Aki 65’, Jarrad Butler 70’
Trosiadau: Jack Carty 67’, 71’
Ciciau Cosb: Jack Carty 13’