Mae ansicrwydd i dîm rygbi Cymru yn dilyn marwolaeth tad y prif hyfforddwr Warren Gatland.

Fe allen nhw fod heb y gŵr o Seland Newydd ar gyfer gêm gynta’r hydref yn erbyn yr Alban ar 3 Tachwedd.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau mewn datganiad gan Undeb Rygbi Cymru, sydd wedi “estyn eu cydymdeimlad” iddo fe a’i deulu.

Mae e wedi mynd adref am y tro.

Bydd Cymru hefyd yn herio Awstralia, Tonga a De Affrica yn Stadiwm Principality ar benwythnosau olynol yn ystod y mis.