Mae maswr y Gleision, Jarrod Evans, wedi cael ei alw i ymuno â charfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref, ar ôl i Bradley Davies dderbyn anaf i’w goes.

Dyw’r gŵr 22 oed ddim wedi ennill cap dros Gymru o’r blaen, er ei fod yn hyfforddi gyda’r crysau cochion ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i Gymru herio pedair gwlad yr hydref hwn, sef yr Alban, Awstralia, Tonga a De Affrica.

Er bod Gareth Anscombe yn ffefryn ar gyfer y crys rhif 10, mae Jarrod Evans mewn safle da ar y fainc, yn enwedig gan fod Dan Biggar ddim ar gael.

Mae hynny oherwydd nad yw’n gallu cael ei ryddhau o’i glwb yn Northampton ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn yr Alban, yn union fel Liam Williams o’r Saracens a Josh Adams o Gaerwrangon.

Yn y cyfamser, mae’r clo, Bradley Davies, wedi gorfod gadael y garfan oherwydd anaf i’w goes.

Bydd Cymru’n herio’r Alban ar Dachwedd 3.