Gleision 12–29 Glasgow

Rhoddwyd cnoc i obeithion Ewropeaidd y Gleision wrth iddynt golli gartref yn erbyn Glasgow ar Barc yr Arfau brynhawn Sul.

Wedi dechrau da i’w hymgyrch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Lyon y penwythnos diwethaf, ni aeth pethau cystal y penwythnos hwn wrth i’r ymwelwyr o’r Alban gipio buddugoliaeth bwynt bonws ym mhrifddinas Cymru.

Dechreuodd Glasgow ar dân gyda dau gais yn y pum munud agoriadol. Daeth y cyntaf i Adam Hastings wedi bylchiad gwreiddiol Matt Fagerson a’r ail i DTH van der Merwe wedi symudiad da ar y chwith.

Tawelodd pethau wedi hynny ond ychweanegodd Hastings gic gosb cyn yr egwyl i ymestyn mantais ei dîm i bymtheg pwynt wrth droi.

Dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda chais i’r Albanwyr. Ali Price a oedd y sgoriwr y tro hwn, yn elwa wedi i rediad cryf van der Merwe dorri’r llinell fantais.

Rhoddodd trosiad Hastings ddau bywnt ar hugain rhwng y timau ac o’r diwedd, fe gafwyd ymateb gan y Gleision. Cais gan Aled Summerhill a oedd hwnnw, yr asgellwr yn tirio wedi cic ddeallus Jarrod Evans.

Os roddodd hynny lygedyn o obaith i’r Cymry, buan iawn y diflannodd hwnnw gyda phedwerydd cais Glasgow ddeuddeg munud o’r diwedd. Hwn a oedd cais gorau’r prynhawn hefyd wrth i’r clo, Johnny Gray, orffen symudiad a ddechreuodd yn nau ar hugain yr ymwelwyr.

Golygodd hynny mai cais cysur yn unig a oedd ail Sumerhill o’r prynhawn yn y munudau olaf, 12-29 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi Glasgow dros y Gleision i’r ail safle yng ngrŵp 3 ac mae talcen caled bellach yn wynebu’r tîm o Gymru gyda dwy gêm gefn wrth gefn yn erbyn y Saracens yn eu haros ym mis Rhagfyr.

.

Gleision

Ceisiau: Aled Summerhill 48’, 78’

Trosiad: Gareth Anscombe 79’

.

Glasgow

Ceisiau: Adam Hastings 2’, DTH van der Merwe 4’, Ali Price 43’, Johnny Gray 68’

Trosiadau: Adam Hastings 5’, 44’, 68

Cic Gosb: Adam Hastings 26’