Caerwrangon 27–21 Gweilch
Colli fu hanes y Gweilch wrth iddynt deithio i Stadiwm Sixways i herio Caerwrangon yng Nghwpan Her Ewrop brynhawn Sadwrn.
Roedd y Cymry 21 pwynt ar ei hôl hi ar hanner amser ac er iddynt wneud gêm ohoni wedi’r egwyl, rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi.
Daeth cais cyntaf y tîm cartref wedi deuddeg munud, Jamie Shillcock yn sgorio wedi bylchiad Perry Humphreys.
Dilynodd yr ail yn fuan wedyn wrth i Wynand Olivier dirio wedi dadlwythiad Matti Williams, ac roedd trydydd cyn yr egwyl diolch i Jack Singleton.
Roedd y Gweilch yn llawer gwell wedi troi ac roeddynt yn ôl yn y gêm wedi pedwar munud wrth i Cory Allen sgorio yn dilyn cic ddeallus James Hook.
Un sgôr a oedd ynddi erbyn hanner ffordd trwy’r ail hanner, Rob McCusker yn sgorio o dan y pyst wedi hyrddiad da gan bac y Gweilch.
Ymestynnodd Shillcock fantais Caerwrangon i ddeg pwynt gyda chic gosb chwarter awr o’r diwedd ond yn ôl y daeth y Gweilch drachefn gyda Allen yn rhyng-gipio pas yng nghanol y cae cyn croesi am ei ail gais ef a thrydydd ei dîm, 24-21 y sgôr gyda phum munud i fynd.
Un sgôr a oedd ei angen ar yr ymwelwyr o Gymru felly ond y tîm cartref a gafodd y gair olaf, tri phwynt arall o droed Shillcock.
Y Gweilch yn gorfod bodloni ar bwynt bonws yn unig felly ond mae grŵp 2 yn agored o hyd gyda thîm Allen Clarke yn ail wedi dwy gêm.
.
Caerwrangon
Ceisiau: Jamie Shillcock 12’, Wynand Olivier 17’, Jack Singleton 37’
Trosiadau: Jamie Shillcock 13’, 18’, 38’
Ciciau Cosb: Jamie Shillcock 65’, 80’
.
Gweilch
Ceisiau: Cory Allen 44’, 74’, Rob McCusker 58’
Trosiadau: James Hook 45’, Cai Evans 59, 76’