Dreigiau 21–35 Northampton
Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt groesawu Northampton i Rodney Parade yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener.
Rhuthrodd yr ymwelwyr 21 pwynt ar y blaen gyda thri chais yn yr hanner cyntaf, un yr un i David Ribbans ac Alex Mitchell ynghyd â chais cosb.
Daeth pwyntiau cyntaf y Dreigiau yn gynnar yn yr ail hanner gyda chais i Elliot Dee ond buan iawn yr oedd Ribbans wedi sicrhau pwynt bonws i Northampton gyda’i ail gais ef a phedwerydd ei dîm.
Ychwanegodd Jacobus Reinach bumed yr ymwelwyr ond rhoddodd dau gais arall i’r Dreigiau, un i Jarryd Sage ac un cais cosb, wedd fymryn yn fwy parchus ar y sgôr terfynol, 21-35.
Mae’r Dreigiau yn aros ar frig grŵp 1 er gwaethaf y golled, ond mae hynny’n debygol o newid wedi i Clermont wynebu Timisoara brynhawn Sadwrn.
.
Dreigiau
Ceisiau: Elliot Dee 44’, Jarryd Sage 63’, Cais Cosb 80’
Trosiadau: Josh Lewis 44’, 63’
Cardiau Melyn: Lewis Evans 31’, Adam Warren 35’
.
Northampton
Ceisiau: David Ribbans 4’, 48’, Alex Mitchell 13’, Cais Cosb 32’, Jacobus Reinach 69’
Trosiadau: Dan Biggar 4’, 14’, James Grayson 49’, 70’