Dim ond dau chwaraewr newydd sydd wedi cael eu cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref.

Dyw Jonah Holmes o glwb Caerlŷr na Luke Morgan o’r Gweilch ddim wedi ennill cap dros eu gwlad o’r blaen.

Y ddau yw’r unig chwaraewyr newydd sydd wedi’u cynnwys, wrth i Warren Gatland ddewis carfan sy’n llawn profiad.

Mae disgwyl i Gymru herio’r Alban, Awstralia, Tonga a De Affrica ym mis Tachwedd.

Y garfan

Ymhlith y 32 o ddynion sydd wedi’i dewis, mae’r capten Alun Wyn Jones, Justin Tupuric, George North a Liam Williams, sy’n dychwelyd wedi seibiant dros yr haf.

Bydd Jonathan Davies, Tyler Morgan a Leon Brown hefyd yn gwisgo’r crys coch unwaith eto.

Ond o ran y rhai na fydd yn ailymuno â’r gweddill oherwydd anafiadau fydd Aaron Shingler a James Davies o’r Scarlets, Talupe Faletau o Gaerfaddon, Josh Navidi o’r Gleision a Scott Williams o’r Gweilch.

Profiad

Dim ond blwyddyn sydd i fynd tan fod cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn cychwyn, ac yn ôl Warren Gatland, mae gan chwaraewyr “gyfle mawr” i ddangos eu doniau.

“Mae’r chwaraewyr a chwaraeodd dros Gymru mor dda yn ystod yr haf yn haeddu cyfle arall, ac rydym yn falch o’r dyfnder sydd wedi cael ei adeiladu ledled y garfan,” meddai.

“Rydym wedi ychwanegu tipyn o brofiad i mewn i’r garfan, gan gynnwys wyth sydd wedi chwarae i’r Llewod, felly mae yna dipyn o gystadleuaeth am safleoedd.

“Mae rhai chwaraewyr profiadol ddim wedi cael lle, ond y neges iddyn nhw yw, ‘dyw’r drws ddim ar gau yn y tymor hir’.

“Mae’n adlewyrchiad o ddyfnder y garfan a’r cyfle sydd ganddon ni i ystyried chwaraewyr eraill.”

Bydd Cymru yn wynebu’r Alban yn y gêm gyntaf yn Stadiwm y Principality ar Dachwedd 3.