Mae rhanbarth y Gweilch wedi arwyddo Johnny Kotze o Dde Affrica ar gytundeb tymor byr.

Mae’n gallu chwarae yn safle’r canolwr neu’r asgellwr, ac fe fydd ar gael i’r rhanbarth am dri mis ar ôl symud o’r Bulls yn ei famwlad.

Yn ystod tymor Super Rugby, sgoriodd y chwaraewr 25 oed saith cais mewn 16 gêm.

Mae’n dweud ei fod “yn edrych ymlaen at gyfrannu at lwyddiant y clwb”.

Gyrfa

Fe ddaeth i amlygrwydd yn chwarae i Western Province cyn symud at y Stormers yn Super Rugby, gan serennu yn ystod tymhorau 2015 a 2016.

Symudodd wedyn at y Bulls i chwarae yng Nghwpan Currie, ac fe fydd yn teithio i Gymru ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben eleni.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Gweilch, Dan Griffiths y bydd Johnny Kotze yn ychwanegu profiad at y garfan yn ystod cyfnod gemau’r hydref pan fydd chwaraewyr rhyngwladol i ffwrdd o’r clwb am gyfnod sylweddol.

“Mae datblygu talent gartref yn flaenoriaeth i ni o hyd, fel y dylai fod, ac rydym yn falch fod gennym gyfartaledd o 21 o chwaraewyr o Gymru yn ein carfan ar ddiwrnod gemau y tymor hwn, ond rydym yn cydnabod fod ychwanegu’r dalent gywir o’r tu allan i Gymru yn gallu ein helpu i gyrraedd ein targedau o ran perfformiad.”