Bydd dwy o gemau’r Pro14 yn cael eu chwarae yng Nghymru yfory, gyda phob un o’r pedwar rhanbarth Cymreig yn mynd benben o fewn oriau i’w gilydd.

Y gêm gyntaf fydd y Scarlets yn erbyn y Gweilch, gyda’r chwarae ym Mharc y Scarlets yn cychwyn am dri y prynhawn.

Bydd y Dreigiau yn herio’r Gleision yn syth wedyn, gyda’u gêm nhw yn Stadiwm Rodney Parade yn cychwyn am gwarter wedi pump.

Mae’r gemau yn fyw ar sianel deledu lloeren, ond bydd cyfle i weld y gêm lawn rhwng y Scarlets a’r Gweilch am wyth o’r gloch nos fory ar S4C.

Yn yr un modd, bydd cyfle i wylio’r ornest rhwng  y Dreigiau a’r Gleision brynhawn dydd Sul am gwarter i bedwar.

Y gêm gyntaf

Fydd canolwr Cymru, Jonathan Davies, ddim yn chwarae i’r Scarlets fory, er iddo gael ei ddewis yn Seren y Gêm yn erbyn y Southern Kings y penwythnos diwethaf.

Fydd gan y Gweilch ddim Dan Evans yn safle’r cefnwr, na chwaith y blaenasgellwr, Dan Lydiate, gan fod y ddau wedi dioddef anafiadau yn ddiweddar.

Ond mae disgwyl i Alun Wyn Jones ddychwelyd i’r Gweilch ar ôl cyfnod o seibiant, a bydd Will Boyde hefyd yn ailymuno â’r Scarlets yn safle’r blaenasgellwr.

Dyw’r Scarlets ddim wedi colli adref yng ngemau’r gynghrair ers mis Medi 2016, tra bo’r Gweilch wedi ennill pedair allan o’r pum gêm y maen nhw wedi’u chwarae’r tymor hwn o dan hyfforddiant Allen Clarke.

Y Scarlets

Leigh Halfpenny; Tom Prydie, Kieron Fonotia, Hadleigh Parkes, Johnny McNicholl, Rhys Patchell, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens (c), Samson Lee, Jake Ball, David Bulbring, Ed Kennedy, Will Boyde, Blade Thomson.

Ar y fainc: Ryan Elias, Phil Price, Werner Kruger, Tom Price, Josh Macleod, Sam Hidalgo-Clyne, Angus O’Brien, Paul Asquith.

Y Gweilch

James Hook; George North, Cory Allen, Owen Watkin, Luke Morgan; Sam Davies, Aled Davies; Nicky Smith, Scott Baldwin, Ma’afu Fia, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Sam Cross, Justin Tipuric (c), James King

Ar y fainc: Scott Owen, Rhodri Jones, Tom Botha, Adam Beard, Olly Cracknell, Mathew Aubrey, Joe Thomas, Hanno Dirksen.

Dreigiau v Gleision

Mae yna wyth o newidiadau wedi cael eu gwneud i dîm y Dreigiau ar drothwy’r gêm yn erbyn y Gleision fory.

Mae Ross Moriarty, Ollie Griffiths a Cory Hill ymhlith  y newidiadau hynny yn dilyn y golled yn erbyn Munster y penwythnos diwethaf.

Mae’r Gleision wedyn wedi gwneud pedwar newid ers eu buddugoliaeth yn erbyn y Cheetas, sy’n cynnwys Josh Navidi a Nick Williams yn dychwelyd at y cefnwyr.

Bydd Josh Turnbull hefyd yn ennill ei ganfed cap wrth chwarae yng nghrys y Gleision brynhawn fory.

Y Dreigiau

Jordan Williams Dafydd Howells, Adam Warren, Jarryd Sage, Jared Rosser; Josh Lewis, Rhodri Williams; Brok Harris, Elliot Dee, Leon Brown, Brandon Nansen, Cory Hill (c), Aaron Wainright, Ollie Griffiths, Ross Moriarty.

Ar y fainc: Richard Hibbard, Ryan Bevington, Aaron Jarvis, Huw Taylor, Nic Cudd, Tavis Knoyle, Tyler Morgan, Will Talbot-Davies.

Y Gleision

Mathew Morgan; Owen Lane, Rey Lee-lo, Willis Halaholo, Jason Harris; Gareth Anscombe, Lloyd Wiliams; Brad Thyer, Kristian Dacey, Dimitri Arhip, George Earle, Josh Turnbull, Josh Navidi, Ellis Jenkins (c), Nick Williams.

Ar y fainc: Kirby Myhill, Rhys Gill, Dillon Lewis, Macauley Cook, Olly Robinson, Tomos Williams, Jarrod Evans.