Zebre 8–22 Gweilch

Roedd un cais yn ddigon i’r Gweilch wrth iddynt drechu Zebre yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Ciciodd Sam Davies 17 pwynt hefyd wrth i’r ymwelwyr o Gymru ennill yn gymharol gyfforddus yn y Stadio Sergio Lanfranchi.

Rhododd Davies y Gweilch ar y blaen gyda chic gosb gynnar a daeth cais y Cymry yn y chwarter awr cyntaf hefyd wrth i Morgan ddod i mewn oddi ar ei asgell gan redeg ongl dda i dorri drwy amddiffyn yr Eidalwyr.

Llwyddodd Davies gyda’r trosiad cyn ymestyn y fantais i dri phwynt ar ddeg gyda gôl adlam annisgwyl.

Cyfnewidiodd Davies a Carlo Canna gic gosb yr un ym munudau olaf yr hanner, 3-16 y sgôr wrth droi.

Ychwanegodd Davies chwe phwynt arall gyda dwy gic gosb yn yr ail hanner gan olygu mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Jimmy Tuivaiti i Zebre.

.

Zebre

Ceisiau: Jimmy Tuivaiti 71’

Cic Gosb: Carlo Canna 36’