Gleision 24–21 Cheetahs

Y Gleision a aeth â hi wrth iddynt groesawu’r Cheetahs i Barc yr Arfau yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Cael a chael a oedd hi serch hynny wrth i’r Cymry orfod dibynnu ar ddau gais yn y chwarter awr olaf i ddal y cathod cyflym.

Rhoddodd cais y clo, Walt Steenkamp, yr ymwelwyr o Dde Affrica ar y blaen wedi deunaw munud cyn i’r Gleision daro nôl gyda chais Rey Lee-Lo. Casglodd y canolwr gic Gareth Anscombe cyn tirio, er bod awgrym ei fod wedi taro’r bêl ymlaen wrth wneud hynny.

Llwyddodd Anscombe gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb funud cyn yr egwyl, 10-7 y sgôr wrth droi.

Dechreuodd y Cheetahs yr ail hanner ar garlam, yn mynd yn ôl ar y blaen gyda chais Rabz Maxwane cyn ymestyn eu mantais gyda sgôr Benhard Janse Van Rensburg toc cyn yr awr.

Yn ôl y daeth y tîm cartref serch hynny gyda dau gais mewn pum munud. Rhoddodd yr eilydd fewnwr, Lloyd Williams, ei dîm o fewn sgôr cyn i’r blaenasgellwr, Olly Robinson, ei hennill hi i’r Gleision ddeg munud o’r diwedd, 24-21 y sgôr terfynol.

.

Gleision

Ceisiau: Rey Lee-Lo 27’, Lloyd Williams 65’, Olly Robinson 69’

Trosiadau: Gareth Anscombe 27’, 66’, 70’

Cic Gosb: Gareth Anscombe 39’

.

Cheetahs

Ceisiau: Walt Steenkamp 19’, Rabz Maxwane 50’, Benhard Janse Van Rensburg 59’

Trosiadau: Tian Schoeman 20’, 51’, 60’