Fe fydd y cefnwr byr gyda’r coesau cyhyrog a’r gic gywrain yn dychwelyd i rengoedd y Scarlets ar gyfer eu hail gêm yn y Pro 14 nos yfory yn erbyn Leinster.

Fe fethodd Leigh Halfpenny y golled yn erbyn Ulster y Sadwrn diwethaf, oherwydd anaf.

Un sy’n methu’r gêm gartref yn erbyn Leinster, Pencampwyr Ewrop, ar Barc y Strade yfory yw Joanathan Davies.

Fe anafodd y canolwr rhyngwladol ei goes yn y gêm yn erbyn Ulster.

Ond mae tri chwaraewr rhyngwladol arall yn dychwelyd i’r Scarlets – y canolwr Hadley Parks a’r blaenwyr Jake Ball a Samson Lee.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Tadgh Furlong, un o’u sêr dros y tymhorau diwethaf. Mae’r Gwyddel wedi dychwelyd i’w famwlad ac yn chwarae yng nghrys Leinster y tymor hwn.

Elfen ddiddorol arall o’r gêm yw mai Rhys Ruddock, mab cyn-hyfforddwr Cymru Mike Ruddock, yw capten Leinster nos yfory ar gyfer yr ornest sy’n cychwyn am 7.35 yr hwyr.