Bydd y Dreigiau’n herio Benetton yn Rodney Parade yn eu gêm gyntaf yn y PRO14 heno (nos Sadwrn, 7.35).

Ond fydd wythwr Cymru, Ross Moriarty ddim ar gael ar ôl symud at y rhanbarth dros yr haf.

Cafodd ei wahardd ar ôl cael ei anfon o’r cae yng ngêm Cymru yn erbyn Yr Ariannin ym mis Mehefin.

Ond bydd y bachwr rhyngwladol Richard Hibbard yn chwarae yn ei gêm gystadleuol gyntaf i’w dîm newydd.

Mae’r maswr Gavin Henson wedi pasio prawf ffitrwydd, ac mae’r mewnwr Tavis Knoyle ar y fainc, wrth i Rhodri Williams ddechrau yn y crys rhif naw.

Dydy Ashton Hewitt, Aaron Jarvis, Harrison Keddie na Jared Rosser ddim ar gael oherwydd anafiadau.

Mae pump wyneb newydd yn nhîm y Dreigiau – Ryan Bevington, Dafydd Howells, Brandon Nansen, Jordan Williams a Rhodri Williams. Mae lle i Huw Taylor a Josh Lewis ar y fainc.