Mae prif hyfforddwr tîm rygbi’r Gleision wedi dweud bod “gwersi i’w dysgu” ar ôl iddyn nhw golli o 33-32 yn erbyn y pencampwyr Leinster ar Barc yr Arfau ar ddiwrnod cyntaf tymor y PRO14.

Roedd y Cymry ar y blaen o 29-14 gyda hanner awr yn weddill o’r gêm, ond roedd y Gwyddelod yn rhy gryf wrth groesi am dri chais hwyr.

Sgoriodd Jason Harries a Ray Lee-Lo ddau gais yr un i’r Cymru, wrth i Jarrod Evans gicio tri throsiad a dwy gic gosb.

Sgoriodd blaenwr Leinster, Bryan Byrne ddau gais, ac fe groesodd Jamison Gibson-Park a James Tracy am gais yr un. Daeth dau drosiad a dwy gic gosb oddi ar droed Ross Byrne, gan gynnwys cic allweddol ddwy funud cyn y chwiban olaf. Ciciodd Ross McFadden gic gosb hefyd.

‘Balch’

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd prif hyfforddwr y Gleision, John Mulvihill, “Dw i’n falch iawn o’u perfformiad nhw.

“Ro’n i am iddyn nhw adael popeth allan ar y cae, ac fe wnaethon nhw hynny.

“Ond mae ffin denau iawn yn y gêm pan fyddwch chi’n chwarae yn erbyn pencampwyr.

“Ry’n ni’n siomedig, ond mae gyda ni ddau bwynt ac mae’n rhaid i ni ddysgu gwersi o hynny.”