Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai Wayne Pivac fydd prif hyfforddwr nesa’ Cymru.

Fe fydd hyfforddwr presennol clwb rygbi rhanbarthol y Scarlets yn olynu Warren Gatland, ond nid tan ar ôl cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesa’.

Erbyn i’w gytundeb ddod i ben ym mis Rhagfyr 2019, fe fydd Warren Gatland wedi bod yn brif hyfforddwr Cymru am dros 12 mlynedd – yr hira’ mae unrhyw un wedi dal y swydd.

Fe fydd Wayne Pivac, 55 oed, sy’n gyn-hyfforddwr Fiji, yn aros gyda’r Scarlets trwy gydol y tymor nesa’, cyn y bydd yn dod o dan gyflogaeth Undeb Rygbi Cymru ym mis Gorffennaf 2019.

“Braint ac anrhydedd”

 “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i gael fy ngwahodd i fod yn hyfforddwr nesa’ Cymru,” meddai Wayne Pivac.

“Dw i’n gwybod fy mod i’n llenwi esgidiau un sy’n cael ei ystyried yn uchel ei barch, nid yn unig gan y cyhoedd yng Nghymru, ond hefyd gan y chwaraewyr sydd wedi chwarae iddo, a dw i am wneud fy ngorau i amddiffyn gwaddol y bydd Warren Gatland, gyda chymorth ei chwaraewyr, yn gadael ar ei ôl.”

Wayne Pivac

Roedd Wayne Pivac yn bennaeth ar Fiji rhwng 2004 a 2007, cyn iddo dreulio rhai blynyddoedd yn hyfforddi timau yn Seland Newydd, a’r Scarlets yng Nghymru.

Yn ystod ei amser yn hyfforddi â’r Scarlets, llwyddodd y tîm ag ennill y gystadleuaeth Pro 12, a gwnaethon nhw gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop.