Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi dweud bod ei dîm yn targedu ail fuddugoliaeth mewn dwy gêm yn erbyn yr Ariannin yr wythnos nesaf.

Roedd y Cymry’n fuddugol o 23-10 ar ddiwedd y prawf cyntaf yn San Juan nos Sadwrn, yn erbyn tîm yr oedd eu holl chwaraewyr yn chwarae i’r un clwb, Jaguares.

Aeth yr Archentwyr ar y blaen drwy gic gosb Nicolas Sanchez cyn i Hallam Amos basio i James Davies i groesi, cyn i’r mewnwr Gareth Davies sefydlu cais i George North.

Ciciodd Rhys Patchell y ddau drosiad a chic gosb i roi Cymru ar y blaen o 17-3 ar yr egwyl.

Fe ddaeth gweddill pwyntiau’r maswr yn yr ail hanner cyn i Tomas Lezana sgorio cais cysur i’r Ariannin wrth i Santiago Gonzalez Iglesias ei drosi.

Ciciodd Gareth Anscombe gic gosb gyda chic ola’r gêm i’w gwneud hi’n gyfforddus i’r Cymry.

Ond y blaenwyr sy’n haeddu’r clod mwyaf am wrthsefyll pac cryf yr Archentwyr, a hynny ar ôl perfformiad campus yn erbyn De Affrica yn Washington wythnos yn ôl hefyd.

Dwy allan o ddwy?

Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni newydd siarad yn yr ystafell newid am fod eisiau dwy allan o ddwy a chipio’r cyfan.

“Roedd yn berfformiad gwych gan y bois. Roedden ni dan ychydig o bwysau yn nhermau tiriogaeth a meddiant, ond roedden ni’n gwybod pa mor bwysig fyddai ein perfformiad amddiffynnol.

“Mae’r bois wedi ymarfer yn dda drwy’r wythnos ac fe wnaethon nhw gyflawni. Dyna wnaethon ni ofyn amdano ganddyn nhw ac fel tîm hyfforddi, allwch chi ddim gofyn am fwy na hynny. Wnaethon nhw roi eu cyrff yn y fantol.”

Yr ail brawf

Bydd Cymru’n herio’r Ariannin unwaith eto ddydd Sadwrn, a hynny yn Santa Fe. Pe baen nhw’n llwyddo i ennill, byddan nhw’n ennill cyfres yn y wlad am y tro cyntaf ers 1999.

Ond mae pryderon am ffitrwydd James Davies ar ôl iddo gael ergyd i’w droed.

Mae prif hyfforddwr yr Ariannin, Daniel Hourcade wedi cyfaddef y bydd yn rhaid i’w dîm wella’u perfformiad yn ardal y dacl er mwyn ennill ddydd Sadwrn nesaf.

“Fe wnaeth Cymru ein curo ni yn yr amddiffyn ac roedden nhw’n haeddu ennill. Roedden nhw’n dda iawn ac os nad ydyn ni’n ennill taclau ac os nad ydyn ni’n well yn ardal y dacl, byddwn ni’n dioddef unwaith eto ddydd Sadwrn nesaf.

“Rhaid i ni gyrraedd y bêl yn gyntaf, curo Cymru i’r llawr, a sicrhau’r momentwm sydd ei angen er mwyn chwarae yn y ffordd y gall y Piwmas chwarae. Doedden ni ddim yn gallu gwneud hynny yn fan hyn.”