Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi cyhoeddi wyth newid i’r tîm i herio’r Ariannin ddydd Sadwrn.

Cory Hill fydd yn arwain y tîm am y tro cyntaf o safle’r clo, ac mae George North wedi’i symud o’r canol i’r asgell i lenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan anaf i benglin Steff Evans.

Mae Josh Adams wedi’i enwi ar yr asgell arall.

Mae Adam Beard wedi’i enwi’n bartner i Cory Hill yn yr ail reng, a daw Wyn Jones i mewn yn brop a James Davies yn flaenasgellwr.

Gareth Davies a Rhys Patchell yw’r haneri, a Hadleigh Parkes a Scott Williams yn y canol. Hallam Amos fydd yn safle’r cefnwr.

Hyder

Dywed Warren Gatland ei fod e am roi “cymaint o gyfleoedd i’r garfan â phosib”, a bod ei dîm yn “llawn hyder”.

Tîm Cymru

Hallam Amos, Josh Adams, Scott Williams, Hadleigh Parkes, George North, Rhys Patchell, Gareth Davies; Wyn Jones, Elliot Dee, Dillon Lewis, Adam Beard, Cory Hill (capten), Seb Davies, James Davies, Ross Moriarty.

Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Tomas Francis, Josh Turnbull, Aaron Wainwright, Aled Davies, Gareth Anscombe, Owen Watkin.