Mae corff rheoleiddio rygbi Lloegr, Rygbi Uwch Gynghrair Cyfyngedig (PRL), wedi cael ei feirniadu am beidio â rhyddhau chwaraewyr o Gymru ar gyfer gemau rhyngwladol.

Mae Luke Charteris, Josh Adams a Tomas Francis, oll yn chwarae i glybiau yn Lloegr, ac mi wrthododd PRL a gadael iddyn nhw chwarae i Gymru ddydd Sadwrn (Mehefin 2).

Gêm brawf yn erbyn De Affrica oedd hon, a gafodd ei chynnal yn Washington DC, yr Unol Daleithiau – enillodd Cymru o 22-20.

Yn ôl corff Rygbi Rhyngwladol, mi ddylai gemau o’r fath gael eu cynnal rhwng Mehefin 9 a Mehefin 23, ac felly doedd dim rhaid i’r PRL rhyddhau’r chwaraewyr.

Ond, i Brif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, dyw’r penderfyniad “ddim yn gwneud synnwyr”, ac “enghraifft drist yw hyn o wleidyddiaeth y gêm.”

“Dw i jest ddim yn medru deall, pam y byddan nhw’n rhwystro chwaraewyr rhag ymuno â ni rhyw wythnos neu ddau yn gynharach,” meddai.