Mi fydd y gêm rhwng Cymru a De Affrica nos yfory yn cael ei darlledu’n fyw ar Channel 4.

Mi ddaeth cadarnhad ddechrau’r mis mai Channel 4 fydd yn darlledu gemau rygbi rhyngwladol Cymru’r Haf hwn, ac fe fydd yn cychwyn gyda’r gêm rhwng y Crysau Cochion a’r Springbocs yn Washington DC yfory.

Yn dilyn y gêm brawf, fe fydd Cymru wedyn yn teithio i Dde Affrica lle byddan nhw’n herio’r Ariannin ddwywaith, sef ar Fehefin 9 a 16.

Fe fydd Channel 4 hefyd yn darlledu’n fyw o naw gêm yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Pencampwyr, sy’n dechrau fis Hydref.

Y garfan

 Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, eisoes wedi enwi’r garfan a fydd yn herio De Affrica yfory, gydag Ellis Jenkins yn gapten.

Dyma’r tro cynta’ i gyn-gapten y tîm dan 20 arwain y tîm llawn, sy’n cynnwys Seb Davies, Steff Evans a Rhys Moriarty.

Mae Warren Gatland wedi dweud bod yna “ddewisiadau cyffrous ledled y tîm”, a bod y gêm yfory yn “gyfle anferthol” i’r chwaraewyr.

Mi fydd y gêm yn cychwyn am 10 u nos, ac yn cael ei darlledu’n fyw ar Channel 4, BBC Radio Cymru a  BBC Radio Wales.

Mi fydd uchafbwyntiau’r gêm i’w gweld ar S4C nos Sul am wyth.