Ellis Jenkins fydd capten tîm rygbi Cymru wrth iddyn nhw wynebu De Affrica yn Washington DC ddydd Sadwrn.

Dyma’r tro cyntaf i gyn-gapten y tîm dan 20 arwain y tim llawn sy’n cynnwys Seb Davies a Ross Moriarty yn y rheng ôl, wrth iddyn nhw fynd benben â’r Springboks.

Nicky Smith, Elliot Dee a Dillon Lewis fydd yn dechrau yn y rheng flaen, gyda Bradley Davies a Cory Hill yn yr ail reng.

Owen Watkin a George North fydd y canolwyr, gyda Steff Evans a Tom Prydie yn asgellwyr, a Hallam Amos yn gefnwr ar y tîm.

“Cyfle anferthol”

“Mae’r gêm yn gyfle anferthol i’r garfan yma, ac i’r chwaraewyr unigol,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

“… Mae ‘na ddewisiadau cyffrous ledled y tîm, a dw i’n edrych ymlaen at ddydd Sadwrn, i weld beth allwn wneud yn erbyn y Springboks.”

Bydd y gêm yn dechrau am 10yh, dydd Sadwrn (Mehefin 2).

Y tîm

Hallam Amos, Tom Prydie, George North, Owen Watkin, Steff Evans, Gareth Anscombe, Tomos Williams, Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Bradley Davies, Cory Hill, Seb Davies, Ellis Jenkins, Ross Moriarty

Ar y fainc

Ryan Elias, Wyn Jones, Rhodri Jones, Adam Beard, Aaron Wainwright, Aled Davies, Rhys Patchell,, Gareth Davies, Hadleigh Parkes