Fydd y blaenasgellwr Aaron Shingler na’r asgellwr Ashton Hewitt ddim ar gael ar gyfer taith Cymru i’r Unol Daleithiau a De America oherwydd anafiadau.

Bydd Cymru’n herio De Affrica a’r Ariannin ar daith tair gêm sy’n dechrau’r wythnos nesaf.

Anafodd Aaron Shingler ei ben-glin yn ystod rownd derfynol y Guinness PRO14 ddydd Sadwrn, wrth i’r Scarlets golli i Leinster, ac fe gafodd Ashton Hewitt anaf i’w ysgwydd wrth ymarfer ganol yr wythnos.

Mae Josh Turnbull wedi’i alw i’r garfan ddwy flynedd ar ôl ennill ei gap diwethaf.

Bydd Cymru’n herio De Affrica yn Washington y penwythnos nesaf, cyn teithio i’r Ariannin ar gyfer dwy gêm yn eu herbyn nhw.