Colli oedd hanes y Scarlets yn rownd derfynol y PRO14, wrth i Leinster eu trechu o 40-32 yn Stadiwm Aviva yn Nulyn.

Sgoriodd y Gwyddelod bump o geisiau, a chiciodd y maswr Jonathan Sexton 13 o bwyntiau, wrth iddyn nhw ddod y tîm Celtaidd cyntaf i gipio’r dwbl domestig ac Ewropeaidd yn yr un tymor.

Aeth y Cymry ar y blaen yn gynnar drwy Leigh Halfpenny, ac fe sgoriodd y naill dîm a’r llall gais – Devin Toner i’r Gwyddelod a Johnny McNicholl i’r Cymry.

Sgoriodd James Lowe gais cyn yr egwyl i roi mantais o 21-11 i’r Gwyddelod.

Roedd hi ar ben, i bob pwrpas, pan groesodd Sean Cronin a Jordan Larmour am geisiau yn yr ail hanner, cyn i Jack Conan ychwanegu cais hefyd.

Roedd dau gais hwyr i’r Scarlets, diolch i Johnny McNicholl a Werner Kruger.