Gleision 23–26 Gweilch

Y Gweilch aeth â hi wrth iddynt hwy a’r Gleision wynebu ei gilydd yng ngêm olaf tymor arferol y Guinness Pro14 yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Er i’r Gleision orffwys nifer o chwaraewyr wedi eu buddugoliaeth Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, roedd hi’n gêm agos ac roedd angen gôl adlam hwyr Dan Biggar ar y Gweilch i gipio’r fuddugoliaeth yn y diwedd.

Y Gweilch a ddechreuodd orau ac wedi i Biggar a Gareth Anscombe gyfnewid cic gosb gynnar yr un, doedd fawr o syndod gweld y tîm o’r gorllewin yn croesi am y cais cyntaf, Alun Wyn Jones yn tirio wedi bylchiad gwreiddiol Jeff Hassler.

Tyfodd y Gleision i’r gêm yn raddol wedi hynny ac roeddynt yn gyfartal chwarter awr cyn yr egwyl wedi i Anscombe drosi ei gais ei hun ar ôl bylchu trwy’r amddiffyn wedi lein gyflym.

Y Gleision a gafodd y cais nesaf hefyd wrth i’r ddau ganolwr gyfuno ddeuddeg munud cyn yr egwyl, Garyn Smith yn croesi wedi cic Steve Shingler i’w lwybr.

Llwyddodd Anscombe gyda’r trosiad cyn cyfnewid tri phwynt arall gyda Biggar cyn yr hanner, 20-13 y sgôr wrth droi.

Y Gweilch a ddechreuodd yr ail hanner orau a dim ond mater o amser a oedd hi cyn i’r pwysau droi’n bwyntiau gyda trosgais Biggar, y maswr yn ffugio cyn croesi o dan y pyst ac unioni’r sgôr gyda’r trosiad.

Ciciodd Anscombe y Gleision yn ôl ar y blaen ddeuddeg munud o’r diwedd ond chwe munud y unig a barodd y fantais cyn i Biggar unioni pethau drachefn.

Roedd y sgôr nesaf yn siŵr o’i hennill hi a seren y gêm, Biggar, a gafodd y sgôr honno gyda gôl adlam dri munud o ddiwedd yr wyth deg.

Mae’r Gleision yn gorffen y tymor yn bedwerydd yn nhabl cyngres A y Pro14, un lle uwch ben y Gweilch sydd yn gorffen yn bumed.

.

Gleision

Ceisiau: Gareth Anscombe 24’, Garyn Smith 29’

Trosiadau: Gareth Anscombe 25’, 30’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 14’, 38’, 68’

.

Gweilch

Ceisiau: Alun Wyn Jones 17’, Dan Biggar 55’

Trosiadau: Dan Biggar 19’, 56’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 3’, 33’, 74’

Gôl Adlam: Dan Biggar 77’