Zebre 34–32 Dreigiau                                                                       

Parhau y mae tymor trychinebus y Dreigiau yn y Guinness Pro14 wedi iddynt golli yn erbyn Zebre yn y Stadio Lanfranchi brynhawn Sadwrn.

Roedd y Cymry dair sgôr ar y blaen ar yr egwyl ond yn ôl y daeth yr Eidalwyr gan ei hennill hi gyda phedwar cais ail hanner.

Wedi cais cynnar Marcello Violi i Zebre, fe gafwyd ymateb da gan y Dreigiau, ac un gŵr yn enwedig. Croesodd yr asgellwr, Jared Rosser, am dri chais gan gwblhau ei hatric mewn cyfnod o ugain munud yn yr hanner cyntaf.

Gorffennodd yr hanner cyntaf gyda Charlie Davies yn ychwanegu pedwerydd cais gan sicrhau pwynt bonws i’r ymwelwyr cyn troi.

Cafwyd ymateb gwych gan Zebre yn yr ail hanner gyda cheisiau Tommaso Castello, Tommaso D’Apice a Johannes Meyer yn y chwarter awr cyntaf yn eu rhoi o fewn dau bwynt.

Ymestynnodd cic gosb Arwel Robson fantais y Dreigiau i bum pwynt wedi hynny ond Zebre a gafodd y gair olaf wrth i Carlo Canna drosi ei gais ei hun i ennill y gêm i’w dîm.

.

Zebre

Ceisiau: Marcello Violi 6’, Tommaso Castello 46’, Tommaso D’Apice 51’, Johannes Meyer 56’, Carlo Canna 71’

Trosiadau: Carlo Canna 7’, 47’, 72’

Ciciau Cosb: Carlo Canna 18’

.

Dreigiau

Ceisiau: Jared Rosser 14’, 21’, 34’, Charlie Davies 40’

Trosiadau: Arwel Robson 21’, 35’, 40’

Ciciau Cosb: Arwel Robson 48’, 67’