Cheetahs 29–27 Gleision

Roedd torcalon hwyr i’r Gleision yn Stadiwm Toyota nos Sadwrn wrth i’r Cheetahs ennill y gêm gyda chais cosb hwyr.

Cafodd y gic gyntaf yn Bloemfontein ei gohirio am dair awr oherwydd hunllef o daith y Cymry i Dde Affrica ond roedd hi’n ymddangos ei bod hi am fod yn daith lwyddiannus pan groesodd Ray Lee-Lo i’w rhoi ar y blaen yn chwarter olaf y gêm. Ond nid felly y bu diolch i’r cais cosb hwyr.

Llwyddodd Gareth Asncombe gyda dwy gic gosb i’r Gleision cyn yr egwyl ond y tîm cartref a reolodd yr hanner gan sgorio tri chais, dau i Sibhale Maxwane ac un i Francois Venter.

Cafwyd ymateb gwych gan y Gleision wedi’r egwyl gyda’r asgellwr mawr, Owen Lane, yn dawnsio trwy’r amddiffyn i sgorio cais cyntaf ei dîm wedi deg munud.

Cam clagwydd Willis Halaholo a arweiniodd at ail y Gleision toc cyn yr awr a rhoddodd trosiad Steve Shingler hwy o fewn dau bwynt.

Roedd traed twyllodrus Halaholo yn ganolog eto wrth iddo ryddhau ei gyd ganolwr, Lee-Lo, I groesi am drydydd cais yr ymwelwyr wrth iddynt fynd ar y blaen gydag ychydig llai na chwarter awr yn weddill.

A bu bron iddynt ddal eu gafael hefyd, ond gyda’r cloc yn goch ac wedi cyfnod hir o bwyso a sgrymio cryf gan y Cheetahs, dyfarnwyd cais cosb i’r tîm cartref a dyna a oedd diwedd y gêm, 29-17 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad fwy neu lai yn rhoi diwedd ar obeithion y Gleision o orffen yn nhri uchaf cyngres A y Pro14 wrth iddynt aros yn bedwerydd, naw pwynt y tu ôl i’r Cheetahs.

.

Cheetahs

Ceisiau: Sibhale Maxwane 14’, 39’, Francois Venter 24’, Cais Cosb 80’

Trosiadau: Daniel Marais 25’, 40’

Cic Gosb: Daniel Marais 7’

Cerdyn Melyn: Clayton Blommetjies 19’

.

Gleision

Ceisiau: Owen Lane 50’, Willis Halaholo 59’, Ray Lee-Lo 67’

Trosiadau: Steve Shingler 50’, 60’, 70’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 3’ 21’

Cerdyn Melyn: Owen Lane 36’