Bennetton 29–27 Dreigiau

Colli fu hanes y Dreigiau mewn gêm agos yn erbyn Bennetton yn y Stadio Comunale di Monigo yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Roedd hi’n gêm o ddau hanner yn Treviso gyda’r tîm cartref yn rheoli’r hanner cyntaf cyn i’r Dreigiau daro nôl i wneud gêm ohoni wedi’r egwyl.

Rhuthrodd y tîm cartref ym mhell ar y blaen yn y deugain munud cyntaf gyda cheisiau Federico Ruzza, Monty Ioane, Tomasso Allan a Tito Tebaldi yn sicrhau’r pwynt bonws cyn yr egwyl.

Dwy gic gosb o droed Arwel Robson a oedd unig bwyntiau’r Dreigiau yn yr hanner cyntaf ond roedd yr ymwelwyr o Gymru yn llawer gwell ar ôl troi.

Rhoddodd ceisiau Cory Hill, Jared Rosser a Connor Edwards hwy o fewn sgôr gyda chwarter awr i fynd ond daliodd Bennetton eu gafael ar eu dau bwynt o fantais tan y diwedd, 29-27 y sgôr terfynol.

.

Bennetton

Ceisiau: Federico Ruzza 2’, Monty Ioane 24’, Tomasso Allan 28’, Tito Tebaldi 40’

Trosiadau: Tommaso Allan 3’, 30’, 40’

.

Dreigiau

Ceisiau: Cory Hill 51’, Jared Rosser 62’, Connor Edwards 66’

Trosiadau: Arwel Robson 52’, 53’, 67’

Ciciau Cosb: Arwel Robson 9’, 16’