Scarlets 26–8 Glasgow

Arhosodd y Scarlets yn ail yng nghyngres B y Guinness Pro14 gyda buddugoliaeth gartref dros Glasgow brynhawn Sadwrn.

Rhys Patchell (2) a Gareth Davies a sgoriodd y ceisiau mewn buddugoliaeth gymharol gyfforddus ar Barc y Scarlets.

Methodd Finn Russell a Leigh Halfpenny ddau gynnig yr un at y pyst cyn i Patchell groesi am gais cyntaf y gêm ddeuddeg munud cyn yr egwyl, yn hyrddio’i ffordd trwy gan ol amddiffyn Glasgow.

Er i Halfpenny fethu’r trosiad, fe lwyddodd gyda chic gosb yn fuan wedyn i ymestyn y fantais i wyth pwynt ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Roedd Russell yn aneffeithiol yn yr hanner cyntaf a daeth Peter Horne i’r cae yn ei le ar gyfer yr ail hanner gan ddod â’i dîm o fewn sgôr gyda chic gosb gynnar.

Ond dyna’r agosaf a ddaeth yr ymwelwyr wrth i’r Scarlets gael y gorau o’r hanner awr olaf.

Adferodd Halfpenny yr wyth pwynt o fantais cyn i Gareth Davies ryng-gipio pas Ali Price a rhedeg dros hanner hyd y cae i sgorio ail gais y tîm cartref.

Tarodd Henry Pyrgos yn ôl gyda chais i Glasgow ond y Scarlets a Patchell a gafodd y gair olaf, y maswr yn croesi am ei ail gais o’r gêm yn y munud olaf wedi dwylo da James Davies.

Ychwanegodd Halfpenny’r trosiad, 26-8 y sgôr terfynol. Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn ail yng nghyngres B gyda dwy gêm yn weddill.

.

Scarlets

Ceisiau: Rhys Patchell 28’, 80’, Davies 55’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 80’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 34’, 54’, 60’

.

Glasgow

Cais: Henry Pyrgos 62’

Cic Gosb: Peter Horne 43’