Mae gobeithion y Scarlets o gyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan y Pencampwyr wedi gwella ar ôl i’w gwrthwynebwyr, La Rochelle, ddioddef dau anaf yn y tîm cyn y gêm heno [nos Wener, Mawrth 30].

Mae cefnwr Seland Newydd, Victor Vito, yn dioddef o anaf i groth ei goes, tra bod canolwr Ffrainc, Geoffrey Doumayrou, allan o’r gêm gyda phroblemau â’i ben-glin.

Bydd pum chwaraewr rhyngwladol dros Gymru yn dechrau yn nhîm yr hyfforddwr, Wayne Pivac – Leigh Halfpenny, Gareth Davies, Rob Evans, Hadleigh Parkes a Ken Owens.

Mae capten yr Alban, John Barclay, hefyd yn rhan o’r garfan, ochr yn ochr â’r cefnwyr Aaron Shingler a James Davies.

Glaw, glaw, cadw draw

Gan nad yw’r Scarlets wedi cyrraedd wyth olaf y gwpan Ewropeaidd ers 2007, mae disgwyl i’r gêm ym Mharc y Scarlets, Llanelli, nos fory fod yn un anferth.

“Bydden i wrth fy modd pe bai’r glaw yn cadw draw a’n bod ni’n gallu mynd allan a chwarae ein gêm naturiol,” meddai Wayne Pivac.

“Dw i’n gwybod y bydd La Rochelle yn chwarae ei gêm naturiol, maen nhw wedi gwneud hynny ymhob gêm rydym ni wedi gwylio eleni. Byddai hynny’n gyffrous.

“… Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein rheolaeth ar y gêm yn gywir os yw’r tywydd yn troi’n wlyb.”