Fe fydd y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Hadleigh Parkes, yn aros gyd chlwb rygbi rhanbarthol y Scarlets, ar ôl iddo arwyddo cytundeb newydd.

Fe ymunodd y cefnwr a’r asgellwr 30 oed â’r Scarlets ym mis Rhagfyr 2014, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb yn ystod y gêm yn erbyn Ulster.

Ers hynny, mae’r gŵr a gafodd ei eni yn Seland Newydd wedi ymddangos 93 o weithiau yng nghrys y clwb, ac wedi sgorio cyfanswm o 12 cais.

Fe ymunodd â charfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer gemau tymor yr hydref llynedd, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y crys coch yn y gêm yn erbyn De Affrica ganol mis Rhagfyr.

“Tair blynedd a hanner arbennig”

“Mae wedi bod yn dair blynedd a hanner arbennig ers ymuno â’r Scarlets,” meddai Hadleigh Parkes, “a dw i’n hynod falch o allu arwyddo’r cytundeb newydd hwn ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

“Dw i wir yn hoff o’m rygbi, ac yn cael y cyfle i weithio gyda chriw arbennig o fechgyn a thîm rheoli da.”

Mi fydd Hadleigh Parkes yn aelod o garfan y Scarlets a fydd yn herio La Rochelle ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener yma (Mawrth 30).

Mae’r ddau glwb yn cystadlu am le yn rownd derfynol cystadleuaeth Cwpan y Pencampwyr.