Gweilch 32–18 Leinster
Cafwyd perfformiad da iawn gan y Gweilch wrth iddynt drechu Leinster ar y Liberty yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.
Dan Evans (2), Tom Habberfield a Justin Tipuric a sgoriodd y ceisiau mewn buddugoliaeth bwynt bonws.
Er i Ross Byrne gicio’r ymwelwyr dri phwynt ar y blaen yn gynnar, cafodd y Gweilch gyfnod da iawn wedi hynny gydag Evans yn croesi am ddau gais.
Cafodd y cefnwr ei gyntaf wedi 13 munud yn dilyn gwaith creu nodweddiadol Tipuric, a’i ail chwarter awr cyn troi, yn dangos dwylo da i gasglu dadlwythiad destlus Kieron Fonotia.
Daeth trydydd cais i’r tîm cartref ddau funud cyn yr egwyl wrth i Habberfield groesi wedi bylchiad Ashley Beck ac roeddynt dair sgôr ar y blaen funud cyn yr egwyl.
Leinster a gafodd y gair olaf cyn troi serch hynny gyda Barry Daly yn tirio cic daclus Ross Byrne i’r gornel.
Dechreuodd y Gwyddelod yr ail hanner yn gryf hefyd ond y Gweilch a gafodd y cais cyntaf, a chais da oedd o hefyd, Tipuric yn sicrhau pwynt bonws o leiaf wrth orffen symudiad da gan y canolwyr, Beck a Fonotia.
Tarodd yr ymwelwyr yn ôl bron yn syth pan roddodd Rory O’Loughlin gwrs llwyddiannus i gic effeithiol Jack McGrath.
Ychwanegodd Joey Carbery’r trosiad cyn cyfnewid cic gosb yr un gyda Biggar ac roedd un pwynt ar ddeg ynddi gydag ychydig llai na chwarter y gêm yn weddill.
Amddiffynnodd y Gweilch yn ddigon cyfforddus wedi hynny cyn coroni’r cyfan gyda chic olaf y gêm, tri phwynt arall o droed Biggar.
Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i’r pumed safle yng nghyngres A y Pro14, saith pwynt y tu ôl i’r Gleision yn y pedwerydd safle.
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Evans 13’, 25’, Tom Habberfield 38’, Justin Tipuric 49’
Trosiadau: Dan Biggar 14’, 39’, 50’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 62’, 80’
.
Leinster
Ceisiau: Barry Daly 40’, Rory O’Loughlin 49’
Trosiad: Joey Carbery 50’
Ciciau Cosb: Ross Byrne 8’, Joe Carbery 58’