Gleision 35–17 Ulster

Rhoddwyd hwb i obeithion y Glesion o gyrraedd gemau diwedd tymor y Guinness Pro14 gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Ulster ar Barc yr Arfau brynhawn Sadwrn.

Mae tîm y brifddinas bellach wedi ennill pum gêm o’r bron ac yn anelu am y trydydd safle yng nghyngres A gyda diweddglo cryf i’r tymor.

Aeth y Gleision ar y blaen wedi dim ond dau funud wrth i Jarrod Evans drosi ei gais ei hun ar ôl dawnsio heibio’r amddiffyn i groesi o dan y pyst.

Ymatebodd Ulster gyda chic gosb o droed John Cooney cyn i Blaine Scully groesi am ail gais y tîm cartref, yn gorffen yn daclus wedi dwylo da Matthew Morgan a Tomos Williams.

Cyfnewidiodd Evans a Cooney gic gosb yr un ym munudau olaf yr hanner,  17-6 y sgôr wrth droi.

Caeodd y Gwyddelod y bwlch i bum pwynt gyda dwy gic gosb arall gan Cooney yn gynnar yn yr ail gyfnod ond y Gleision a gafodd y cais nesaf gyda Kristian Dacey yn croesi toc cyn yr awr wedi hanner bylchiad Jarrod Evans.

Ychwanegodd Evans gic gosb ychydig funudau’n ddiweddarach i roi tair sgôr rhwng y timau gyda llai na chwarter y gêm yn weddill.

Ychydig o syndod felly a oedd gweld y Gleision yn mynd am y pyst eto ddeg munud o’r diwedd gyda’r pwynt bonws o fewn eu cyrraedd.

Roedd hi’n ymddangos eu bod yn mynd i ddifaru’r penderfyniad hwnnw wrth i Ulster dreulio’r munudau olaf yn nau ar hugain y Gleision ond rhoddodd cais hwyr David Shanahan i’r ymwelwyr un cyfle olaf i’r Cymry ail dechrau a chael y bêl yn hanner y gwrthwynebwyr.

A gyda’r cloc yn goch, fe ddaeth y pedwerydd cais holl bwysig i’r Gleision wrth i’r eilydd brop, Dillon Lewis, groesi o dan y pyst wedi hanner bylchiad arall gan seren y gêm, y maswr ifanc, Evans.

Ychwanegodd yntau’r trosiad i gynyddu ei gyfanswm personol i ugain pwynt, 35-17 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn bedwerydd yn nhabl cyngres A, bum pwynt y tu ôl i’r Cheetahs yn y trydydd safle, ond y tîm o Dde Affrica yw gwrthwynebwyr nesaf y Gleision ymhen pythefnos.

.

Gleision

Ceisiau: Jarrod Evans 2’, Blaine Scully 13’, Kristian Dacey 57’, Dillon Lewis 80’

Trosiadau: Jarrod Evans 3’, 14’, 80’

Ciciau Cosb: Jarrod Evans 40’, 63’, 71’

.

Ulster

Ceisiau: David Shanahan 79’

Ciciau Cosb: John Cooney 6’, 39’, 46’, 53’

Cerdyn Melyn: Wiehahn Herbst 28’