Mae’r clwb rygbi rhanbarthol, y Gweilch, wedi cadarnhau na fydd Rhys Webb yn chwarae i’r clwb am weddill y tymor, wrth iddo wella ar ôl derbyn triniaeth i’w goes.

Mae’n eithaf posib felly na fydd y mewnwr 31 oed yn chwarae eto yng nghrys y clwb yn y dyfodol agos, gan y byddai’n symud i’r clwb Tolon yn Ffrainc ddiwedd y tymor.

Mae’n debygol y bydd y symud hwn hefyd yn effeithio ar ei ddyfodol gyda charfan Cymru, o ystyried y drefn newydd sydd mewn lle ar gyfer dewis chwaraewyr.

Ni fydd y bachwr, Sam Parry, ar gael ar gyfer gemau’r Gweilch am weddill y tymor chwaith, wedi iddo dderbyn anaf i’w fron yn ystod y gêm yn erbyn y Cheetas ddiwedd mis diwethaf.