Mae “rhagor i ddod” gan dîm rygbi Cymru, yn ôl y chwaraewr rheng ôl Taulupe Faletau.

Curodd Cymru Ffrainc o 14-13 yn Stadiwm Principality neithiwr i orffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Maen nhw bellach wedi curo Ffrainc chwe gwaith yn eu saith gêm ddiwethaf.

Fe fydd Cymru’n teithio i Washington i herio De Affrica ar Fehefin 2, cyn symud i’r Ariannin lle byddan nhw’n cymryd rhan mewn cyfres o ddwy gêm.

Doedd Cymru ddim wedi sgorio’r un pwynt am weddill y gêm ar ôl i Liam Williams sgorio cais a Leigh Halfpenny’n llwyddo gyda thair cic gosb o fewn hanner awr i’r gic gyntaf.

Wrth i Gymru ddechrau paratoi ar gyfer Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf, fe fydd Sam Warburton, Jonathan Davies a Rhys Webb yn dychwelyd ar ôl colli’r Chwe Gwlad oherwydd anafiadau.

‘Hapus i ennill’

Dywedodd Taulupe Faletau: “Roedden ni jyst yn hapus i ennill mewn modd hyll. Doedd e ddim yn hardd yn fan yna, ac roedd dod i ffwrdd gyda’r fuddugoliaeth yn beth positif.

“Reodden nhw [Ffrainc] yn eitha’ da yn gwneud beth wnaethon nhw ac yn eitha’ effeithiol. Doedden ni ddim yn gallu dechrau pethau.

“Roedden ni’n gwybod eu bod nhw’n fygythiad yn ardal y dacl a doedden ni ddim wedi ymdrin â hynny yn y modd y bydden ni wedi hoffi, felly mae’n ardal i’w gwella y bydd yn rhaid i ni edrych arni.

“Mae rhagor i ddod, yn sicr. Ry’n ni’n gweld cyfnodau o hynny ac mae wedi bod yn wych i’w wylio, ond mae symud y peth ymlaen i’r lefel nesaf yn golygu ei wneud e am 80 munud yn hytrach na mewn mannau.”

Mae disgwyl i Taulupe Faletau fod ymhlith y chwaraewyr fydd yn gorffwys dros yr haf yn hytrach na mynd ar daith.