Cymru 14–13 Ffrainc
Gorffennodd Cymru’n ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwald yn dilyn buddugoliaeth mewn gêm glos yn erbyn Ffrainc yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Pwynt a oedd ynddi yn y diwedd ond y Cochion aeth â hi er na wnaethant sgorio pwynt yn yr ail hanner.
Hanner Cyntaf
Er i Ffrainc fynd ar y blaen gyda gôl adlam gynnar Francois Trinh-Duc, Cymru a gafodd gais cyntaf y gêm, yn syth o’r ail ddechrau. Casglodd Alun wyn Jones y bêl cyn i Liam Williams roi cwrs i gic Scott Williams a thirio.
Er i Leigh Halfpenny fethu’r trosiad, fe ymestynnodd y cefnwr fantais ei dîm gyda dwy gic gosb yn fuan wedyn, 11-3 y sgôr wedi chwarter awr.
Cafodd Ffrainc gyfnod da wedi hynny ac roeddynt yn ôl yn y gêm hanner ffordd trwy’r hanner wedi i Gael Fickou ddod oddi ar ei asgell i hollti trwy ganol yr amddiffyn a chroesi o dan y pyst.
Llwyddodd Halfpenny gyda chic gosb arall i ymestyn mantais Cymru i bedwar pwynt cyn yr egwyl, 14-19 y sgôr wrth droi.
Ail Hanner
Ffrainc a ddechreuodd yr ail hanner orau ac roeddynt o fewn un pwynt wedi deg munud diolch i gic gosb Maxime Machenaud.
Parhau i reoli a wnaeth y Ffrancwyr wedi hynny a chawsant gyfle gwych i fynd ar y blaen ddeuddeg munud o’r diwedd on methodd Trinh-Duc gyda chynnig cymharol hawdd at y pyst.
Llwyddodd Cymru i chwarae digon o’r gêm yn hanner Ffrainc wedi hynny a roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel wedi i Aaron Shingler ddwyn y bêl o lein y gwrthwynebwyr gyda’r cloc yn goch.
Mae’r canlyniad yn golygu fod Cymru’n gorffen yn ail yn nhabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi tair buddugoliaeth gartref yn erbyn y gleision, Yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc.
.
Cymru
Ceisiau: Liam Williams 5’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 10’ 16’, 32’
.
Ffrainc
Cais: Gael Fickou 21’
Trosiad: Maxime Machenaud 22’
Cic Gosb: Maxime Machenaud 49’
Gôl Adlam: Francois Trinh-Duc 4’