Mae ffans rygbi Iwerddon wedi bod yn cyrraedd Llundain yn eu miloedd ar gyfer gêm olaf Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2018.

Iwerddon sydd ar frig y tabl, ac mae Cymru’n anelu am yr ail safle.

Fe fyddai buddugoliaeth Iwerddon tros Loegr heddiw yn dod ar Ddydd San Padrig, ac fe fyddai’n bendant yn ychwanegu at y parti mawr sy’n digwydd ledled y byd ar Fawrth 17.