Gleision 31–25 Bennetton

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth bwynt bonws wrth iddynt groesawu Bennetton i Barc yr Arfau yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Sgoriodd y tîm cartref ddau gais ym mhob hanner wrth ennill gêm a gafodd ei gohirio yn wreiddiol oherwydd yr eira bythefnos yn ôl.

Dechreuodd y Gleision yn wael ac roedd Bennetton yn llawn haeddu mynd chwe phwynt ar y blaen gyda dwy gic gosb Marty Banks.

Newidiodd pethau wrth i’r tîm cartref fynd ar y blaen gyda dau gais da mewn tri munud; y cyntaf i Owen Lane wedi bylchiad Matthew Morgan, a’r ail i Olly Robinson wedi gwaith da Jarrod Evans a Lloyd Williams.

Tarodd Bennetton yn ôl gyda chais cyn yr egwyl, Giorgio Bronzini yn taro cic Jarrod Evans i lawr cyn tirio. Maswr y Gleision a gafodd y gair olaf cyn yr egwyl serch hynny, yn trosi cic gosb i roi pedwar pwynt rhwng y timau, 13-17 wrth droi.

Daeth trydydd cais y Gleision yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Ellis Jenkins gasglu a thirio cic ddeheuig Tom Williams dros yr amddiffyn.

Ond yn ôl y daeth yr Eidalwyr gyda Monty Ioane yn sgorio bron yn syth o’r ail ddechrau wedi i gic arall gan Evans gael ei tharo i lawr.

Hyrddiodd Nick Williams drosodd i sicrhau pwynt bonws o leiaf i’r Gleision wedi hynny ond nid oedd y fuddugoliaeth yn ddiogel eto wrth i’r ymwelwyr orffen yn gryf yn chwarter olaf y gêm.

Rhoddodd cais hwyr Thomas Baravalle bwynt bonws iddynt a llygedyn o obaith am y fuddugoliaeth ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i’r Gleision ddal eu gafael ar eu mantais yn yr eilidau olaf, 31-25 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn bedwerdydd yn nhabl cyngres A y Pro14.

.

Gleision

Ceisiau: Owen Lane 28’, Olly Robinson 31’, Ellis Jenkins 49’, Nick Williams 54’

Trosiadau: Jarrod Evans 29’, 32’, 49’, 55’

Cic Gosb: Jarrod Evans 38’

.

Bennetton

Ceisiau: Giorgio Bronzini 35’, Monty Ioane 50’, Thomas Baravalle 80’

Trosiadau: Marty Banks 36’, Ian McKinley 52’

Ciciau Cosb: Marty Banks 4’, 15’