Mae  Alun Wyn Jones wedi ymrwymo i aros yng Nghymru gyda’r Gweilch.

Arwyddodd y cawr o flaenwr Gytundeb Cenedlaethol Deuol (NDC) sy’n golygu bod Undeb Rygbi Cymru yn ariannu 60% o’i gyflog, a’i fod ar gael i brif gemau’r tîm cenedlaethol.

“Dw i’n ddiolchgar am y cydweithio rhwng yr Undeb a’r Gweilch, a bydd hyn yn diogelu fy muddion ac yn fy ngalluogi i chwarae rygbi hyd orau fy ngallu,” meddai Alun Wyn Jones.

“Pan oeddwn ar ddechrau fy ngyrfa, dw i ddim yn credu y byddwn wedi rhagweld y baswn yn parhau ar fy nhaith â’r Gweilch.

“Ond mae arwyddo cytundeb NDC newydd ar yr adeg yma yn helpu o ran safon a nifer y gemau dw i’n eu chwarae. A gobeithio bydd hyn yn golygu y bydd cyfleoedd yn parhau i ddod.”

Mae’r chwaraewr 32 blwydd oed wedi ennill 116 cap i Gymru – yn ogystal â 9 gyda’r Llewod – a bellach mae wedi bod yn chwarae â’r Gweilch am 13 tymor.