Fe fydd Caryl Thomas yn ennill ei hanner canfed cap wrth i dîm rygbi merched Cymru herio Ffrainc yn Stadiwm Zipworld ym Mae Colwyn nos Wener (am 6 o’r gloch).

Ymddangosodd y prop pen rhydd yng nghrys Cymru am y tro cyntaf yn 2006.

Does dim newid i’r tîm a gollodd yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Principality ddydd Sul, ac mae’r tîm yn cynnwys pum aelod o garfan saith bob ochr Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia – Hannah Jones, Jaz Joyce, Elinor Snowsill, Alisha Butchers a Sioned Harries.

Er iddi serennu yn niwedd y gêm fel eilydd yn erbyn yr Eidal wrth ennill ei chap cyntaf, lle ar y fainc yn unig sydd gan Alecs Donovan unwaith eto.

Wrth i ferched Cymru a Ffrainc herio’i gilydd nos Wener, fe fydd tîm dan 20 y dynion yn herio Ffrainc am 8.15yh.

‘Tîm gorau’r gystadleuaeth’

Meddai’r prif hyfforddwr, Rowland Phillips: “R’yn ni’n gwybod ein bod ni’n herio’r tîm gorau yn y gystadleuaeth. Rhaid i ni ymateb i ba mor gorfforol ydyn nhw.

“Mae’n brawf rhagorol i ni ac er mwyn cael rhywbeth o’r gêm, rhaid i ni gael yr holl gyfleoedd agos a’r ffiniau tenau sydd wedi effeithio arnon ni hyd yn hyn i fynd o’n plaid ni y tro hwn.

“Os allwn ni fanteisio ar rai o’r cyfleoedd y byddwn ni’n ceisio’u creu, gallwn ni herio un o dimau gorau’r byd yng ngêm y merched o flaen yr hyn fydd, gobeithio, yn dorf fawr ym Mae Colwyn.”

Tîm Cymru

15 Hannah Jones, 14 Jaz Joyce, 13 Kerin Lake, 12 Robyn Wilkins, 11 Jess Kavanagh, 10 Elinor Snowsill, 9 Keira Bevan; 1 Caryl Thomas, 2 Carys Phillips (capten), 3 Amy Evans, 4 Siwan Lillicrap, 5 Mel Clay, 6 Alisha Butchers, 7 Bethan Lewis, 8 Sioned Harries

Eilyddion

16 Kelsey Jones, 17 Gwenllian Pyrs, 18 Cerys Hale, 19 Natalia John, 20 Nia Elen Davies, 21 Jade Knight, 22 Lisa Neumann, 23 Alecs Donovan