Fe fydd canolwr tîm rygbi Cymru, Jamie Roberts yn symud o Harlequins i Gaerfaddon ar ddiwedd y tymor.

Mae’r Cymro Cymraeg wedi ennill 94 o gapiau dros ei wlad, ac wedi cynrychioli’r Llewod.

Symudodd i Harlequins o Racing 92 yn Ffrainc yn 2015.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Harlequins, John Kingston fod Jamie Roberts wedi bod yn “esiampl o broffesiynoldeb” yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb.

Ond roedd y clwb wedi penderfynu peidio ag ymestyn ei gytundeb ar ddiwedd y tymor ar ôl arwyddo Ben Tapuai o Gaerfaddon.