Mae Taulupe Faletau wedi cyfaddef ei fod e’n “syfrdan” pan gafodd e alwad ffôn gan brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland yn gofyn iddo fod yn gapten yn erbyn yr Eidal.

Dyma’r tro cyntaf iddo gael y fraint ac yntau wedi ennill 70 o gapiau dros ei wlad.

Mae Cymru’n mynd am ddeuddegfed buddugoliaeth o’r bron, a byddai buddugoliaeth bwynt bonws yn cadw gobeithion Cymru o gyrraedd y ddau uchaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw ar drothwy’r penwythnos olaf.

Dywedodd Taulupe Faletau: “Mae’r bois wedi gwneud pethau da iawn dros y gemau diwethaf ry’n ni wedi’u chwarae.

“Ry’n ni wedi gweld ar adegau pa mor gyffrous allwn ni fod, a’r her ar gyfer y gêm hon yw adeiladu ar hynny.”

‘Braint’

Ychwanegodd Taulupe Faletau: “Mae’n dda cael bod allan eto gyda’r bois, ac mae cael y cyfle i chwarae eto’n wych.

“Gobeithio y gallwn ni gael perfformiad a chanlyniad da.

“Mae’n fraint enfawr cael y cyfle hwn, a dw i’n edrych ymlaen ato.

“Mae bod yma’n freuddwyd ynddi’i hun, ac mae cael arwain y tîm yn fonws.

“Ces i fy syfrdanu braidd. Ond ar ôl meddwl am y peth, mae’n rhywbeth y byddwn i’n difaru pe na bawn i’n ei wneud e. Felly yr ateb amlwg oedd dweud ‘Ie’.

“Gobeithio y gall fy ngweithredoedd siarad drosof fi.”